Sut mae creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?  Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd 562,000 o boblogaeth Cymru’n siarad Cymraeg, ffigwr sy’n annibynadwy gan fod cymaint o rieni di-Gymraeg yn cofrestru’u plant yn siaradwyr Cymraeg er eu bod yn mynychu ysgolion Saesneg.  Gweler y tabl isod sy’n nodi’r gwahaniaeth rhwng canrannau’r cyfrifiad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a Chymru’n gyffredinol ar y naill law a’r ganran gywir a geir ar sail faint o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Title: Siarwadwyr Cymraeg 10-14 Oed - Description: Mae’r ffigwr cywir ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl felly yn debygol o fod o dan 500,000.

Figure 1: Mae’r ffigwr cywir ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl felly yn debygol o fod o dan 500,000.

O dderbyn y ffigwr o 562,000 fel man cychwyn, fodd bynnag, mae’n amlwg y bydd angen creu rhwng 15,000 a 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn rhwng rwan a 2050, yn enwedig o gofio y bydd nifer sylweddol o’n pobl ifainc yn parhau i groesi Clawdd Offa i chwilio am waith.

e.e. 32 mlynedd x 15,000 = 480,000.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfartaledd mae oddeutu 28,000 o ddisgyblion Blwyddyn 2 yn derbyn addysg Saesneg.  Os defnyddiwn Flwyddyn 2 fel trothwy ar gyfer croesi’r ffin i ruglder (er gellid dewis un o’r blynyddoedd cyn hynny, mewn gwirionedd) gwelir y bydd angen i dros 53% o’n hysgolion cynradd Saesneg  presennol droi yn rhai cyfrwng Cymraeg ar fyrder (28,000 x 53.6% = 15,008), neu i ganran sylweddol uwch ohonynt droi’n rhai cyfrwng Cymraeg wrth i’r blynyddoedd barhau. 

Gyda’r cyllid cyfyngus sydd ar gael ar hyn o bryd i faes Cymraeg I Oedolion a’r ffaith fod llai na 1,000 o oedolion yn genedlaethol yn croesi’r trothwy i ruglder bob blwyddyn (mae’r ffigwr cenedlaethol o 15,000 o ddysgwyr yn cynnwys dysgwyr ar bob lefel) mae’n amlwg mai’r system addysg i blant yw’r llwybr pwysicaf o ran creu siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed os cynyddir yr arian a roddir i faes Cymraeg I Oedolion. Gall maes Cymraeg i Oedolion, fodd bynnag, wneud gwaith eithriadol o bwysig o safbwynt targedu sectorau penodol a phoblogeiddio’r Gymraeg yn gyffredinol.  Gall hyn greu effaith domino gydag oedolion yn dewis danfon eu plant i ysgolion Cymraeg hyd yn oed os nad ydynt yn rhugl eu hunain.

Mae’r ystadegau a nodir yn nogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru parthed trosglwyddiad iaith yn y cartref hefyd yn tanlinellu’n glir na ellir dibynnu bellach ar y cartref fel y prif fecanwaith ar gyfer cynhyrchu siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn y tymor byr i ganolig.

Ioan Talfryn
Prif Weithredwr
Popeth Cymraeg Cyf.